Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i

Teithio Llesol Merthyr

Teithio Llesol Merthyr

 

Yn 2013 gosododd Cymru nod uchelgeisiol iddi’i hun: gwneud cerdded a beicio’r ffordd fwyaf naturiol ac arferol o fynd o gwmpas. Y cyfrwng ar gyfer gwireddu’r uchelgais hwnnw oedd Deddf Teithio Llesol (Cymru), a basiodd drwy Senedd Cymru gyda chefnogaeth unfrydol. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol fapio rhwydweithiau cynhwysfawr o lwybrau cerdded a beicio a fydd yn galluogi pobl i wneud eu teithiau bob dydd yn gyfleus ac yn ddiogel ar droed neu ar feic. Mae'n gofyn am welliant parhaus i'r rhwydweithiau hynny ac adrodd ar y cynnydd hwnnw. Mae’n galw am hyrwyddo teithio llesol ac am wella cyfleusterau i deithwyr llesol wrth adeiladu neu wella priffyrdd.


Mae teithio llesol yn golygu gwneud teithiau drwy gerdded a beicio, ac mae cynnydd mewn teithiau o’r fath yn allweddol i gyflawni’r nodau cynaliadwyedd yn Strategaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Mae’n bwysig cynnwys teithio llesol yn rhan o drefn ddyddiol drwy greu seilwaith sy’n gwneud beicio a cherdded yn fwy diogel yn brofiad mwy pleserus i bawb.

 

Gall annog a galluogi teithio llesol cynaliadwy sicrhau’r manteision canlynol;

  • Gwell lles corfforol a meddyliol
  • Cefnogi ffyniant economaidd
  • Gwella diogelwch ffyrdd
  • Gwella'r amgylchedd a bioamrywiaeth
  • Creu ymdeimlad o le
  • Lleihau tagfeydd
  • Gwella ansawdd bywyd

 
Bydd mwy o deithio llesol yn arwain at lai o deithiau mewn car ac amgylchedd mwy diogel a dymunol ar gyfer teithiau cerdded a beicio.

 

FFAITH DDIDDOROL: Os bydd teithiau cymudwyr sydd â phellter teithio o lai na 10km a wneir ar hyn o bryd ar drafnidiaeth gyhoeddus yn newid i feicio (neu ddulliau actif eraill) byddai gan Ferthyr 18 gwaith yn fwy o bobl yn beicio nag ar hyn o bryd. Dyma'r ail botensial uchaf o ran newid o blith holl awdurdodau'r DU. Mae hyn yn dangos yr angen cryf am well seilwaith a chapasiti ar gyfer beicio a cherdded yn ein bwrdeistref.

Partneriaeth

Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth gan Trafnidiaeth Cymru