Neidio i'r prif gynnwy
Diweddariad Gaeaf

Teithio Llesol

Rydym wedi bod yn gwella’r amodau i gerddwyr ger Hen Heol Gellifaelog a Heol Newydd er mwyn galluogi cerddwyr i gyrraedd Parc Newland yn ddiogel. Daeth y cais hwn drwy’r fforwm mynediad lleol.

Rydym hefyd yn gwella’r ddarpariaeth i gerddwyr y tu allan i ysgol Twyn gyda’r newidiadau i’r gylchfan.

Hoffem annog plant a theuluoedd i gerdded neu seiclo i’r ysgol ac rydym am iddynt allu gwneud hynny’n ddiogel, gan gadw hyn mewn golwg rydym yn gwella’r amodau i gerddwyr yn ysgol gynradd Dowlais.

Byddwn hefyd yn cyflwyno croesfan i gerddwyr ger Parc Tretomos yn ystod yr wythnosau nesaf.

Bellach mae gan yr Awdurdod bwerau Tramgwyddau Traffig Symudol a byddwn yn defnyddio'r rhain i orfodi stryd Ysgol ar hyd Heol Caedraw. Mae hwn yn debygol o fod yn weithredol ar ôl gwyliau'r Pasg.

Os hoffech i ni osod croesfan i gerddwyr yn rhywle, anfonwch e-bost atom gyda rhagor o fanylion:  active.travel@merthyr.gov.uk

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn yr Hydref rydym wedi gofyn am nawdd gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni ein cynllun Teithio Heini ger pyllau dŵr Pen-y-wern yn 2025. Dylem gael gwybod os oeddem yn llwyddiannus ai peidio erbyn diwedd mis Mawrth.