Dweud eich dweud!
Crynodeb o Ymgynghoriad Heol Caedraw
Sut allwn wella’r ddarpariaeth ar gyfer cerddwyr?
Cawsom 271 ymateb i’r cwestiwn hwn.
A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol ynghylch Cylchfan Caedraw?
Cawsom 211 ymateb i’r cwestiwn hwn.
Ein hymateb
Hoffem ddiolch i’r sawl ohonoch a gymerodd yr amser i ddarparu adborth ynghylch eich profiadau o’r ardal hon o Gaedraw. Mae’n amlwg bod yno angen am welliannau yn yr ardal hon i gerbydau a cherddwyr ill dau.
Bwriad y Tîm Teithio Llesol yw cynyddu newid moddol yn ogystal â chynyddu nifer y bobl sy’n teithio mewn ffurf lesol. Gwanwn y pethau hyn drwy gyflwyno rhwydwaith priodol sy’n hwyluso amgylchedd mwy diogel.
Mae allyriadau nwyon teithio yn un o’r elfennau sy’n cyfrannu fwyaf at ein hargyfwng amgylcheddol presennol. Gall bob un ohonom chwarae rhan wrth i ni fynd i’r afael â newid hinsawdd a gwella ansawdd yr aer drwy leihau’r nifer o siwrneiau bach a gymerwn yn ein cerbydau.
Mae teithio llesol hefyd yn dda ar gyfer ein llesiant personol drwy ein cynorthwyo ni i gyrraedd 150 munud o weithgaredd corffol yr wythnos - rhywbeth sy’n andros o bwysig wrth i ni gynnal ein hiechyd yn gyffredinol.
Mae’r Tîm Teithio Llesol yn awyddus iawn i ymgymryd â’r gofynion i wella darpariaeth i gerddwyr yn yr ardal, fodd bynnag rydym yn ymwybodol bod nifer o dagfeydd yn yr ardal hon. Fel awdurdod, byddwn yn ystyried cyflwyno mesurau mwy diogel ar y gylchfan hon. Rydym yn cydnabod bod angen rheoli traffig yn yr ardal er mwyn osgoi tagfeydd pellach, felly byddwn hefyd yn ystyried gwelliannau traffig er mwyn osgoi gweld traffig yn pentyrru ac yn rhwystro allanfeydd, er enghraifft. Byddwn hefyd yn edrych ar y sefyllfa mewn modd cyfannol drwy ystyried y dref yn ei chyfanrwydd wrth i ni drafod y cynigion hyn.
Rydym wedi gwneud cais am nawdd i gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo cynigion sydd yn ystyried nifer o wahanol opsiynau yn yr ardal hon. Os fydd ein cais am nawdd yn llwyddiannus, byddwn yn rhannu’r cynigion ar y wefan hon a thrwy ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol.