Ysgolion
Strydoedd Ysgol yn dod i Ferthyr
Llynedd, cynhaliodd Cyngor Merthyr Tudful dreialon mewn deg ysgol er mwyn mynd i'r afael â ffyrdd o amgylch gatiau ysgol sy'n cael eu dominyddu gan geir, gan achosi perygl posibl i blant a chyfrannu at lefelau llygredd niweidiol. Y cynllun cyntaf i dderbyn cyllid yw Heol Caedraw.
Mae Cyngor Merthyr Tudful eisiau sicrhau bod plant yn gallu mynychu'r ysgol mor ddiogel â phosibl. Bydd y cynllun Stryd Ysgol yn dechrau ar 3 Mawrth 2025, er mwyn cynorthwyo i leihau traffig o amgylch mynedfeydd ysgolion yn ystod amseroedd gollwng a chasglu brig.
Yn ystod y tymor, ni chaniateir i gerbydau modur yrru ar Heol Cedraw yn ystod yr wythnos rhwng 8.30am a 9.30am a 2.45pm - 3.45pm. Bydd arwyddion yn hysbysu gyrwyr o'r cyfyngiadau wrth fynedfa Stryd yr Ysgol a bydd unrhyw gerbydau anawdurdodedig sy'n dod i mewn yn ystod cyfnodau cyfyngedig yn derbyn hysbysiad tâl cosb o £70, sy'n gostwng i £35 os telir o fewn 21 diwrnod.
Bydd trigolion Heol Caedraw yn cael eu diogelu gan eu trwyddedau presennol. Gall nifer cyfyngedig o staff ysgol, gofalwyr a deiliaid Bathodyn Glas sydd angen cael mynediad i'r ysgol, wneud cais am drwydded a fydd yn caniatáu i'w cerbyd yrru ar Stryd yr Ysgol yn ystod cyfnodau cyfyngedig.
Mae Stryd Ysgol yn creu lle mwy diogel i blant a'u teuluoedd gerdded, gwthio pramiau, beicio neu sgwtera i'r ysgol gan ddod â chyfoeth o fuddion i ddisgyblion ysgol a phreswylwyr:
Gwella iechyd corfforol a meddyliol plant ysgol
- lleihau achosion o yrru'n beryglus, parcio a throi tu allan i ysgolion yn ystod amseroedd ysgol
- mwy o blant yn cadw'n heini drwy gerdded neu feicio i'r ysgol, sydd yn ei dro yn lleihau traffig yn yr ardal leol yn ystod amseroedd gollwng a chasglu yr ysgol
- mwy o gyfleoedd i ryngweithio cymdeithasol ar y ffordd i'r ysgol a mwy o annibyniaeth i ddisgyblion hŷn
- lleihau allyriadau o amgylch ysgolion